
Yng ngardd y parc mae'r Capten yn dyfrio'r pridd i Seren blannu hadau. Ond pa flodyn sydd wedi tyfu yno'n barod? In the park, the Captain is watering the soil so Seren can plant some seeds.

Mae'r traeth yn llawn o ryfeddodau lliwgar. Mae Fflwff a'i fryd ar gysgodwr gwynt, a'r Capten a Seren a'u llygaid ar gylch rwber a pharasol. The beach is full of lovely colourful things!

Mae'r fowlen golchi llestri yn llawn swigod ac mae Fflwff wrth ei fodd yn eu dynwared. Mae Seren yn hoffi swn y dwr yn arllwys i mewn i'r sinc. Ond beth mae'r Capten yn ei wneud yn y sinc?